Beth yw cyflwr niwrolegol?
Ceir llawer o gyflyrau niwrolegol nad ydym eto’n gwybod beth sy’n eu hachosi, ac mae llawer o waith ymchwil yn cael ei wneud i geisio deall mwy am y ffactorau amgylcheddol a genetig sy’n gysylltiedig.
Gall cyflyrau niwrolegol effeithio ar bobl o bob oedran a gallant ddechrau ar unrhyw adeg ym mywyd unigolyn. Nid yw pob cyflwr o’r fath yn ddifrifol. Mae rhai cyflyrau niwrolegol yn para am oes a gallant fod yn bresennol o enedigaeth, fel Spina Bifida neu barlys yr ymennydd. Bydd cyflyrau eraill fel clefyd Alzheimer neu glefyd Parkinson yn effeithio ar bobl hŷn yn bennaf.
Gall anaf neu salwch, megis anaf i’r pen neu strôc, llid yr ymennydd neu ganser yr ymennydd a’r asgwrn cefn achosi cyflwr niwrolegol. Mae rhai cyflyrau niwroddirywiol, fel sglerosis ymledol a chlefyd niwronau motor, yn effeithio ar oedolion yn bennaf ac maen nhw’n gwaethygu’n raddol, gan achosi dirywiad dros amser. Mae hyn yn golygu y bydd unigolyn yn ei chael hi’n anodd byw’n annibynnol yn y pen draw a bydd yn dibynnu mwy ar wasanaethau priodol i’w helpu.
Mae’r rhan fwyaf o gyflyrau niwrolegol yn effeithio ar ansawdd bywyd pobl a bydd rhai yn achosi anabledd gydol oes. Mae’n bwysig bod pobl yr effeithir arnynt gan gyflwr niwrolegol yn derbyn y gofal a’r driniaeth cywir ar yr adeg gywir. Gellir ymdrin â llawer o gyflyrau niwrolegol mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac yn y gymuned, er y bydd yn rhaid atgyfeirio rhai pobl i wasanaethau mwy arbenigol ar gyfer archwiliadau. Yn aml, bydd niwrolegydd yn gwneud diagnosis o gyflwr niwrolegol yn dilyn archwiliadau diagnostig. Weithiau, fodd bynnag, ni ellir gwneud diagnosis.
Yn gyffredinol, prin yw dealltwriaeth y cyhoedd o gyflyrau niwrolegol. Ceir diffyg ymwybyddiaeth hyd yn oed ynglŷn â rhai o’r cyflyrau mwyaf cyffredin fel epilepsi. O ganlyniad i hyn, gallai pobl â chyflwr niwrolegol wynebu gwaradwydd ac agwedd ddigymwynas gan eraill.
Os ydych chi’n pryderu am gyflwr niwrolegol arbennig ac yn dymuno cael mwy o wybodaeth neu gymorth, efallai y byddai’n fuddiol i chi gysylltu ag un o’r sefydliadau sy’n aelod o’r Gynghrair.